Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros Gynaliadwyedd, Amgylchedd a Thai wedi lansio'r ymgynghoriad ar drywydd ynni adnewyddadwy cyntaf Cymru.
Wrth siarad yn y lansiad y bore 'ma, dywedodd Comisiynydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru, Peter Davies:
"Mae Trywydd Ynni Adnewyddadwy yn gynllun cyffrous, arloesol ar gyfer defnyddio ein hadnoddau adnewyddadwy cryf i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae bod yn hunangynhaliol o ran trydan adnewyddadwy o fewn 20 mlynedd yn bosibilrwydd cyffrous y gellir ei gyflawni ynghyd ag ymdrech benderfynol i leihau faint o ynni a ddefnyddir.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pennu gweledigaeth i'w chanmol, a allai greu swyddi, cyfleoedd a gwella ein henw da fel gwlad sy'n flaengar. Gall cymunedau, pobl a busnesau bellach wneud penderfyniadau hyddysg am ddyfodol ynni yng Nghymru. Nawr yw'r amser i ymateb a dweud eich dweud oherwydd dim ond gyda chymorth a chyfraniad pob sector y gellir cyflawni'r weledigaeth.
Mae'n rhaid i'r trywydd fod wrth wraidd strategaeth datblygu economaidd Cymru, lle mae'r bartneriaeth â'r sector preifat mor bwysig. Mae ganddi'r potensial i greu nifer o swyddi a chyfleoedd yng Nghymru, gan ddatblygu Cymru yn economi arloesol, carbon isel, sy'n seiliedig ar wybodaeth.
Bydd angen i Gymru weithredu cyfres o dechnolegau ynni adnewyddadwy i'w galluogi i drosglwyddo i economi carbon isel - nid yw'r naill neu'r llall yn ddigon, bydd angen pob math o drydan carbon isel arnom i ddisodli ein hynni a gynhyrchir gan danwydd ffosil ar gyfer trafnidiaeth a gwresogi.
Bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad cymunedau, y cyhoedd a'r sector preifat a chyhoeddus fel y gall Cymru ddangos ystod gwbl amrywiol o dechnolegau ynni adnewyddadwy. Mae gan y sector cyhoeddus, drwy awdurdodau megis Tor-faen, rôl arwain allweddol yn eu cymunedau eu hunain. Mae angen i ni gydnabod y pryder sy'n bodoli am effaith ynni adnewyddadwy. Mae angen gosod y pryder hwn, yn arbennig o ran effaith weledol, yng nghyd-destun effaith radical newid yn yr hinsawdd. Ni ddylem anwybyddu'r awydd sy'n bodoli mewn cymunedau i fod yn rhan o'r newidiadau hyn, fel y gwelir drwy enghreifftiau megis rhwydwaith ynni cymunedol Sir Benfro.
Po gyflymaf y gall Cymru leihau ei galw am drydan y cyflymaf y gellir cyflawni'r dyhead canmoladwy hwn o fod yn hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy ymhen 20 mlynedd".
Ymgynghoriad ar Drywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru