Wrth lansio ei adroddiad ar ynni o’r llanw heddiw (1 Hydref), gwêl y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy gyfleoedd cyffrous i Gymru arwain y gad mewn diwydiant ynni’r llanw.
Dengys ymchwil fanwl ynghyd ag ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid y gallai tua 10% o anghenion ynni’r DU gael ei darparu gan gyfuniad o ynni llif llanw ac amrediad llanw, gyda thua 50% o adnodd y DU ar hyd arfordir Cymru.
Dywedodd y Comisiynydd Peter Davies:
"Mae’r adroddiad hwn yn awgrymu fod potensial anferth ar draws Cymru i ddatblygu ynni o’r llanw, a ellid, ynghyd â’n adnodd ynni gwynt arbennig, alluogi Cymru i arwain ym maes ynni adnewyddadwy."
Mae canfyddiadau’r CDC yn adlewyrchu ystod sylweddol o adnodd llanw ar draws Cymru, gan gynnwys Aber Afon Hafren. Ar forglawdd Hafren, mae’r Comisiwn yn gosod amodau am forglawdd a ellid ei ystyried yn gynaliadwy:
• Cydymffurfiaeth lwyr â Cyfarwyddebau’r UE ar gynefinoedd ac adar, yn ogystal ag ymrwymiad dros y tymor hir at greu cynefinoedd cydadferol ar raddfa hollol newydd.
• Er mwyn osgoi agweddau byr dymor, rhaid i forglawdd Hafren gael ei arwain fel prosiect cyhoeddus, a pharhau’n eiddo i’r cyhoedd i sicrhau budd cyhoeddus tymor hir.
• Ni ddylai sylw ar ddatblygiad morglawdd Hafren dynnu sylw wrth weithredu llawer ehangach ar newid yn yr hinsawdd.
Mae rhai sylwebyddion wedi damcaniaethu ar botensial morlynnoedd llanw fel ffynhonnell ynni cynaliadwy, ond hyd nes y gwelir datblygiad prosiect, bach iawn o wybodaeth sydd ar gael ynghylch y gwir effeithiau economaidd ac amgylcheddol. Ni ddarganfu’r Comisiwn unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cynnig y byddai datblygiad morlyn llanw ar raddfa fawr yn Aber Afon Hafren yn fwy ffafriol na forglawdd yn amgylcheddol neu’n economaidd.
Mae’r Comisiwn felly’r argymell y dylai Llywodraeth edrych i ddatblygu prosiect arddangos morlyn llanw cyntaf y byd, gan ymateb i ddiddordeb cyhoeddus cryf yng nghysyniad morlyn, a galluogi casgliad data amgylcheddol ac economaidd angenrheidiol.
Dengys yr ymchwil hefyd y gallai technolegau llif llanw wneud cyfraniad sylweddol i strategaethau ynni cynaliadwy'r gweinyddiaethau datganoledig, gan fod yr adnoddau llif llanw wedi’u canolbwyntio yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd y Comisiynydd Peter Davies:
"Mae ynni o’r llanw yn ymddangos fel cyfle cyffroes iawn i Gymru, gydag adnoddau gwych o amgylch ein harfordir. Mae’r posibiliad real y gallai’r morlyn llanw cyntaf yn y byd gael ei ddatblygu yng Nghymru yn gyfle cyffroes. Ochr yn ochr â buddsoddi mewn technoleg llif llanw, gellid generadu maint sylweddol o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan hefyd ddatblygu sgiliau ac arbenigedd a fyddai’n creu potensial allforio rhyngwladol tymor hir.
Mae yna rôl yn sicr i ynni o’r llanw, ond ni ellid tynnu ein sylw wrth yr angen ar draws Cymru a gweddill y byd i leihau ein defnydd o ynni, gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ein ffynonellau ynni. Does dim ateb syml, a tra bod y cyfle i ddefnyddio adnodd llanwol Cymru yn addawol, un rhan y byddai o strategaeth tymor hir i leihau gollyngiadau carbon."
» Lawr lwythwch yr adroddiad
Nodyn i Olygyddion
1. Am ragor o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Rahel Jones ar 02920 8210701/07970 741047, neu e-bostiwch rahel.jones@sd-commission.org.uk ar yn ail cysylltwch â Rhian Thomas ar 020 7270 8539 / 07793 544 162
2. Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yw corff ymgynghorol annibynnol Llywodraeth ar faterion cynaladwyedd. Mae iddo 19 Comisiynydd, a’r cadeirydd yw Jonathon Porritt. Mae’r Comisiwn yn atebol i’r Prif Weinidog ac i Brif Weinidogion Cymru, yr Alban a Phrif Weinidog a Dirprwy Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.
3. Fe ariannwyd yr adroddiad Ynni o’r Llanw yn y DU gan BERR, Llywodraeth Cynulliad Cymru, SWRDA, Llywodraeth yr Alban a’r Adran Fasnach, Menter a Buddsoddiad (Gogledd Iwerddon)
4. Gellir lawrlwytho’r adroddiad a phapurau ymchwil perthnasol o wefan y Comisiwn - www.sd-commission.org.uk/wales , neu drwy gysylltu â ni ar wales@sd-commission.org.uk, neu 02920 821701.