Caiff llanw ei greu gan effeithiau disgyrchiant y lleuad a'r haul ar gefnforoedd y ddaear droellog, a thrydan sy'n cael ei greu gan symudiadau'r llanw. Er hyn, mae'r dechnoleg sydd yn gallu dal ynni'r llanw dipyn gwahanol o ran llif llanw a symudiad dŵr amrediad llanw. Yn ôl y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy mae gan Gymru gyfleoedd posibl sylweddol ar gyfer ynni llanw adnewyddadwy, ond yn ôl arolygon, nifer fechan o bobl sy'n ei ddeall.
Os ydym am gymryd mantais o'r cyfleoedd yma a'u datblygu mewn fframwaith amser realistig, rhaid i Gymru sicrhau cynnydd o ran dealltwriaeth er mwyn helpu i lywio trafodaethau.
Mae cynghorwyr y Llywodraeth, y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, ynghyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gweithrediaeth yr Alban, wedi cyhoeddi Dilyn y Don- llyfr canllawiau poblogaidd ar gyfer llif llanw, a gynlluniwyd i fagu diddordeb a llywio trafodaethau yng nghymunedau arfordirol Cymru a'r Alban lle ceir cyfleoedd arbennig o ran ynni'r llanw.
Llynedd cynhaliodd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy astudiaeth gynhwysfawr o Ynni'r Llanw yn y DU. Darganfuwyd:
•Ar arfordir De-Orllewin y DU mae'r potensial gorau ar gyfer technoleg amrediad llanw gan fod gwahaniaethau mawr rhwng llanw uchel ac isel yn yr ardal. Mae'r gwahaniaeth yn Aber Afon Hafren yn 8.2 metr ac mae Aber Glannau Mersi hefyd yn fan perffaith ar gyfer prosiect amrediad llanw.
Er hyn, canfu ein hastudiaeth hefyd mai ychydig iawn o ddealltwriaeth sydd ynghylch llif llanw, er enghraifft yn aml caiff ei gam-gymryd am fathau eraill o dechnoleg egni adnewyddadwy.
Mae Dilyn y Don yn anelu at leihau'r dryswch er mwyn annog pobl i gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus ynglŷn â dyfodol egni llanw, o safbwynt hyddysg.
Mae technoleg llif llanw yn defnyddio'r ynni sydd mewn ceryntau llanw sy'n llifo'n gyflym, a geir, yn gyffredinol, mewn moroedd cyfyngedig.
Mae datblygiad technolegau llif llanw yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer cynhyrchu egni carbon isel, a cheir cyfleoedd enfawr o ran potensial allforio'r dechnoleg newydd hon.
Mae Cymru yn gobeithio dod yn fwy na hunangynhaliol erbyn 2025 drwy gynnyrch trydan adnewyddadwy ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhagweld y gallai hyd at 15% o hyn ddod o'r prosiectau tonnau, llif llanw neu forlyn llanw.
Ar hyn o bryd mae technoleg llif llanw yng Nghymru ar gam ymchwil ac arddangos. Mae yna amrywiaeth eang o brosiectau diddorol ar gam o ddichonoldeb masnachol sylweddol neu yn agos ato gan gynnwys gwaith gan
• Eon/Lunar oddi ar arfordir Sir Benfro
• MCT oddi ar arfordir Sir Fôn
• Eco 2 DeltaStream
• Prifysgol Abertawe /Swan Turbines.
Dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:
"Rydym yn ffodus yma yng Nghymru am fod gennym adnoddau ynni adnewyddadwy naturiol ac mewn 20 mlynedd, os cymerwn fantais sylweddol a sensitif ohonynt gallant ein darparu â mwy o ynni adnewyddadwy na'r cyfanswm rydym yn defnyddio ar hyn o bryd - gallai ei hanner ddod o ffynonellau morol. Mae gennym gyfle euraidd yn awr i arwain y ffordd wrth ddatblygu'r dechnoleg a fydd yn caniatáu i ni fanteisio ar yr adnoddau yma fel eu bod, nid yn unig yn cyfrannu at gynhyrchu ynni adnewyddadwy ond hefyd yn sicrhau manteision economaidd. Gobeithiaf y bydd y canllawiau yma yn help i ennyn brwdfrydedd a chynnig gwybodaeth i'r genhedlaeth newydd er mwyn arwain y ffordd yn y maes hwn."
» Darllenwch fwy am waith y Comisiwn ar Ynni'r Llanw